2 Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.
3 Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.
4 Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.
5 Myfi a glywais â'm clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a'th welodd di.
6 Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
7 Ac wedi dywedyd o'r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.
8 Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.