9 Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt. A'r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job.
10 Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a'r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.
11 Yna ei holl geraint, a'i holl garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.
12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na'i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.
13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.
14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.
15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a'u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.