Eseia 11 BCN

Cangen o Jesse

1 O'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn,ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;

2 bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno,yn ysbryd doethineb a deall,yn ysbryd cyngor a grym,yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;

3 ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD.Nid wrth yr hyn a wêl y barna,ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,

4 ond fe farna'r tlawd yn gyfiawna dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear.Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau,ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.

5 Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynaua ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.

6 Fe drig y blaidd gyda'r oen,fe orwedd y llewpard gyda'r myn;bydd y llo a'r llew yn cydbori,a bachgen bychan yn eu harwain.

7 Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth,a'u llydnod yn cydorwedd;bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.

8 Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.

9 Ni wnânt ddrwg na difrodyn fy holl fynydd sanctaidd,canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon,felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.

10 Ac yn y dydd hwnnwbydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd;bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef,a bydd ei drigfan yn ogoneddus.

11 Ac yn y dydd hwnnwfe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefni adennill gweddill ei bobla adewir, o Asyria a'r Aifft,o Pathros ac Ethiopia ac Elam,o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y môr.

12 Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd,a chasglu alltudion Israel;fe gynnull rai gwasgar Jwdao bedwar ban y byd.

13 Diflanna cenfigen Effraim,a thorrir ymaith elynion Jwda.Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda,ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.

14 Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin,ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr;bydd Edom a Moab o fewn eu gafael,a phlant Ammon yn ufudd iddynt.

15 Gwna'r ARGLWYDD yn sychdirdafod môr yr Aifft;chwifia'i law dros yr Ewffrates,ac â'i wynt deifiolfe'i hollta yn saith o ffrydiau,i'w throedio yn droetsych.

16 A bydd priffordd i weddill ei bobl,i'r gweddill a adewir o Asyria,megis y bu i Israelpan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.