Eseia 57 BCN

Eilunaddoliaeth Israel

1 Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio;cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio.Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,

2 ac fe â i dangnefedd;a gorffwyso yn ei welyy bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.

3 “Dewch yma, chwi blant hudoles,epil y godinebwr a'r butain.

4 Pwy yr ydych yn ei wawdio?Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod?Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,

5 chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw,dan bob pren gwyrddlas,ac yn aberthu plant yn y glynnoedd,yn holltau'r clogwyni?

6 Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis;yno y mae dy ran.Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm,ac y dygaist fwydoffrwm.A gaf fi fy nhawelu am hyn?

7 Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig,a mynd yno i offrymu aberth.

8 Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst,a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun;aethost i fyny yno i daenu dy welyac i daro bargen â hwy.Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy,a gweld eu noethni.

9 Ymwelaist â Molech gydag olew,ac amlhau dy beraroglau;anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad,a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.

10 Blinaist gan amlder dy deithio,ond ni ddywedaist, ‘Dyna ddigon.’Enillaist dy gynhaliaeth,ac am hynny ni ddiffygiaist.

11 “Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni,a gwneud iti fod yn dwyllodrus,a'm hanghofio, a pheidio â meddwl amdanaf?Oni fûm ddistaw, a hynny'n hir,a thithau heb fy ofni?

12 Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd.Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;

13 pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu.Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd,ac awel yn eu chwythu i ffwrdd.Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fiyn meddiannu'r ddaear,ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”

Cysur i'r Edifeiriol

14 Fe ddywedir,“Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd;symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl.”

15 Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,a'i enw'n Sanctaidd:“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,a bywhau calon y rhai cystuddiol.

16 Ni fyddaf yn ymryson am bythnac yn dal dig yn dragywydd,rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;oherwydd myfi a greodd eu hanadl.

17 Digiais wrtho am ei wanc pechadurus,a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho;aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,

18 ond gwelais y ffordd yr aeth.Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;

19 cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr.Heddwch i'r pell ac i'r agos,”medd yr ARGLWYDD, “a mi a'i hiachâf ef.”

20 Ond y mae'r drygionus fel môr tonnogna fedr ymdawelu,a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.

21 “Nid oes heddwch i'r drygionus,”medd fy Nuw.