Eseia 21 BCN

Yn Erbyn Babilon

1 Yr oracl am anialwch y môr:Fel corwynt yn chwyrlïo dros y Negef,felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.

2 Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi:bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio.Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid!Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.

3 Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid,cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor;cythryblwyd fi wrth ei glywed,brawychais wrth ei weld.

4 Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu;trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.

5 Huliant fwrdd, taenant y lliain,y maent yn bwyta ac yfed.Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.

6 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf:“Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.

7 Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”

8 Yna fe lefodd y gwyliwr,“Rwyf wedi sefyll ar y tŵr ar hyd y dydd, O Arglwydd,ac rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;

9 a dyma a ddaeth—gŵr mewn cerbyd gyda phâr o feirch,yn dweud, ‘Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio,a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.’ ”

10 Chwi, fy eiddo a fu dan y dyrnwr ac a nithiwyd,mynegais i chwi yr hyn a glywaisgan ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel.

Yn Erbyn Edom

11 Yr oracl am Duma:Geilw un arnaf o Seir,“O wyliwr, beth am y nos?O wyliwr, beth am y nos?”

12 Atebodd y gwyliwr,“Daw bore, a nos hefyd.Os ydych am ofyn, gofynnwch,a dewch yn ôl eto.”

Yn Erbyn Arabia

13 Yr oracl am Arabia:Yn llwyni Arabia y lletywch,chwi garafanau Dedanim;

14 dewch â diod i gyfarfod y rhai sychedig.Chwi drigolion Tema,ewch i gyfarfod y fföedigion â bara;

15 oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noetha'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.

16 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: “O fewn blwyddyn, yn ôl tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar;

17 ychydig o saethwyr bwa o blith gwŷr grymus Cedar a fydd yn weddill.” Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.