1 Anfonodd llywodraethwr y wlad ŵyno Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.
2 Y mae merched Moab wrth rydau Arnonfel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.
3 “Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir;bydded dy gysgod fel nos drosom,hyd yn oed ar ganol dydd;cuddia'r ffoaduriaid,paid â bradychu'r crwydriaid.
4 Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi;bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd.”Pan ddaw diwedd ar drais,a pheidio o'r ysbeilio,a darfod o'r mathrwyr o'r tir,
5 yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch,ac arni fe eistedd un ffyddlonym mhabell Dafydd,barnwr yn ceisio barn degac yn barod i fod yn gyfiawn.
6 Clywsom am falchder Moab—mor falch ydoedd—ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd,heb sail i'w hymffrost.
7 Am hynny fe uda Moab;uded Moab i gyd.Fe riddfana mewn dryswch llwyram deisennau grawnwin Cir-hareseth.
8 Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma;drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion;buont yn cyrraedd hyd at Jaser,ac yn ymestyn trwy'r anialwch.Yr oedd ei blagur yn gwthio allan,ac yn cyrraedd ar draws y môr.
9 Am hynny wylaf dros winwydd Sibmafel yr wylais dros Jaser;dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale;canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
10 Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd;mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd,ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau,a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.
11 Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab,a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.
12 Pan ddaw Moab i addoli,ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa;pan ddaw i'r cysegr i weddïo,ni thycia ddim.
13 Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.
14 Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, “Ymhen tair blynedd, yn ôl tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys.”