1 Pwy yw hwn sy'n dod o Edom,yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch;y mae ei wisg yn hardd,a'i gerddediad yn llawn o nerth?“Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder,ac yn abl i waredu.”
2 Pam y mae dy wisg yn goch,a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?
3 “Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan,ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi;sethrais hwy yn fy llid,a'u mathru yn fy nicter.Ymdaenodd eu gwaed dros fy nilladnes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
4 oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial,a daeth fy mlwyddyn i waredu.
5 Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu,a synnais nad oedd neb i'm cynnal;fy mraich fy hun a'm gwaredodd,a chynhaliwyd fi gan fy nicter.
6 Sethrais y bobl yn fy llid,a'u meddwi yn fy nicter,a thywallt eu gwaed ar lawr.”
7 Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD,a chanu ei glodyddam y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni,a'i ddaioni mawr i dŷ Israel,am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd,ac o lawnder ei gariad di-sigl.
8 Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt,plant nad ydynt yn twyllo”,a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.
9 Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd;yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy,a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.
10 Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;troes yntau'n elyn iddynt,ac ymladd yn eu herbyn.
11 Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,am Moses a'i bobl.Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môrfugail ei braidd?Ple mae'r un a roes yn eu canol hwyei ysbryd sanctaidd,
12 a pheri i'w fraich ogoneddusarwain deheulaw Moses,a hollti'r dyfroedd o'u blaen,i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?
13 Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd,fel arwain march yn yr anialwch;
14 mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryny tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy.Felly yr arweiniaist dy bobl,a gwneud iti enw ardderchog.
15 Edrych i lawr o'r nefoedd,o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gwêl.Ple mae dy angerdd a'th nerth,tynerwch dy galon a'th dosturi?Paid ag ymatal rhagom,
16 oherwydd ti yw ein tad.Er nad yw Abraham yn ein hadnabod,nac Israel yn ein cydnabod,tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad,Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.
17 Pam, ARGLWYDD, y gadewaist i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd,a chaledu ein calonnau rhag dy ofni?Dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.
18 Pam y sathrodd annuwiolion dy gysegr,ac y sarnodd ein gelynion dy le sanctaidd?
19 Eiddot ti ydym ni erioed;ond ni fuost yn rheoli drostynt hwy,ac ni alwyd dy enw arnynt.