Eseia 22 BCN

Yn Erbyn Jerwsalem

1 Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth:Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonochwedi dringo i bennau'r tai?

2 Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw!Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf,na'th feirwon mewn brwydr.

3 Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd,fe'u daliwyd heb blygu bwa;daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd,er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.

4 Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,gadewch i mi wylo'n chwerw;peidiwch â cheisio fy niddanuam ddinistr merch fy mhobl.”

5 Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswchyn nyffryn y weledigaeth,diwrnod o falurio ceyryddac o weiddi yn y mynyddoedd.

6 Cododd Elam ei gawell saethau,bachwyd meirch wrth gerbydau Aram,dinoethodd Cir ei tharian.

7 Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;

8 dinoethwyd amddiffynfa Jwda.Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'rarfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,

9 yn edrych y bylchau yn Ninas Dafyddam eu bod yn niferus,ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.

10 Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11 gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

12 Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,am eillio pen a gwregysu â sachliain;

13 ond dyma lawenydd a gorfoledd,lladd gwartheg a lladd defaid,bwyta cig ac yfed gwin, a dweud,“Gadewch inni fwyta ac yfed,oherwydd yfory byddwn farw.”

14 Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud,“Yn wir, ni lanheir y drygioni hwn nes i chwi farw.”Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

15 Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd:“Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tŷ,

16 ‘Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma,dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun,gan dorri dy fedd ar le uchela naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?

17 Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynotac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;

18 bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch,ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan.Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog,yn warth i dŷ dy feistr.

19 Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.’ ”

20 “Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia,

21 ac yn ei wisgo â'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda.

22 Gosodaf allwedd tŷ Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor.

23 Byddaf yn ei osod yn sicr, fel hoelen yn ei lle; bydd yn orsedd ogoneddus yn nhŷ ei dad.

24 Ef fydd yn cynnal holl bwys y teulu, yr hil a'r epil, sef yr holl lestri mân, yn gwpanau ac yn gawgiau.

25 Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni.” Llefarodd yr ARGLWYDD.