Eseia 26 BCN

Cân o Foliant

1 Yn y dydd hwnnw cenir y gân hon yng ngwlad Jwda:Y mae gennym ddinas gadarn;y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi.

2 Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn,y genedl sy'n cadw'r ffydd.

3 Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaithy sawl sydd â'i feddylfryd arnat,am ei fod yn ymddiried ynot.

4 Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.

5 Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr ucheldera'r ddinas ddyrchafedig;fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr,a'i bwrw i'r llwch;

6 fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus,a than sang y rhai tlawd.

7 Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn;gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;

8 edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD,am lwybr dy farnedigaethau;d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.

9 Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos,a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr;oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad,bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.

10 Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder;fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn,ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.

11 O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant;gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio;a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.

12 ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni,oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.

13 O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom,dy enw di yn unig a gydnabyddwn.

14 Y maent yn feirw, heb fedru byw,yn gysgodion, heb fedru codi mwyach.I hynny y cosbaist hwy a'u difetha,a diddymu pob atgof amdanynt.

15 Ond cynyddaist y genedl, O ARGLWYDD,cynyddaist y genedl, a'th ogoneddu dy hun;estynnaist holl derfynau'r wlad.

16 Mewn adfyd, O ARGLWYDD, roeddym yn dy geisio,ac yn tywallt allan ein gweddipan oeddet yn ein ceryddu.

17 Fel y bydd gwraig ar fin esgoryn gwingo a gweiddi gan boen,felly y'n ceir ni yn dy ŵydd, O ARGLWYDD;

18 yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor,a heb eni dim ond gwynt.Ni chawsom waredigaeth i'r wlad,nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.

19 Ond bydd dy feirw di yn byw,a'u cyrff marw yn codi.Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch;oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni,a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.

20 Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell,caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd,nes i'r llid gilio.

21 Canys wele, y mae'r ARGLWYDD yn dod allan o'i fangrei gosbi trigolion y ddaear am eu drygioni;yna fe ddatgela'r ddaear y gwaed a dywalltwyd,ac ni chuddia ei lladdedigion byth mwy.