Eseia 29 BCN

Gwae ar Ddinas Dafydd

1 Gwae Ariel, Ariel,y ddinas lle gwersyllodd Dafydd.Gadewch i'r blynyddoedd fynd heibio,aed y gwyliau yn eu cylch;

2 yna dygaf gyfyngder ar Ariel,a bydd galar a chwynfan;bydd yn Ariel mewn gwirionedd i mi.

3 Gwersyllaf o'th gwmpas fel cylch,gwarchaeaf o'th amgylch â thyrau,codaf offer gwarchae yn dy erbyn.

4 Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd,ac yn sisial dy eiriau o'r llwch;daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd,daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.

5 Ond bydd tyrfa dy elynion fel llwch mân,a thyrfa dy gaseion fel us yn mynd heibio;yna'n sydyn, ar amrantiad,

6 fe'th gosbir gan ARGLWYDD y Lluoeddâ tharan a daeargryn a sŵn mawr,â storm a thymestl a fflam dân ysol.

7 Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel,yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu,fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos—

8 fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag,fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig.Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9 Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt;ewch yn feddw, ond nid ar win,yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.

10 Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.

11 Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.”

12 Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.”

13 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu atafa thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig,ond eu calon ymhell oddi wrthyf,a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,

14 am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto,ac yn syfrdanu'r bobl hyn;difethir doethineb eu doethiona chuddir deall y rhai deallus.”

15 Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfni gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;am fod eu gwaith yn y tywyllwch,dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”

16 Troi popeth o chwith yr ydych.A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai?A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr,“Nid ef a'm gwnaeth”?A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?

17 Onid ychydig bach fydd etones troi Lebanon yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?

18 Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr,a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.

19 Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD,a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.

20 Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus,torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,

21 a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd,yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth,ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.

22 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Jacob, y Duw a waredodd Abraham:“Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio,nac yn awr i'w wyneb welwi;

23 pan wêl ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn,fe sancteiddiant fy enw,sancteiddiant Sanct Jacob,ac ofnant Dduw Israel;

24 a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall,a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers.”