1 Yr oracl am Moab:Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab;y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.
2 Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo;dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab.Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;
3 gwisgir sachliain yn yr heolydd;ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.
4 Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,a chlywir eu cri hyd Jahas;am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,ac yntau yn ysgwyd drwyddo.
5 Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar,hyd Eglath-shalisheia;dringant riw Luhith dan wylo,a thorri calon ar ffordd Horonaim.
6 Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.
7 Am hynny cludant dros nant Arabimyr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.
8 Aeth y gri o amgylch terfynau Moab,nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.
9 Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed,ond dygaf waeth eto ar Dimon—llew ar warthaf ffoaduriaid Moab,ac ar warthaf y gweddill yn y tir.