Eseia 55 BCN

Gwahoddiad i'r Sychedig

1 “Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno;dewch, er eich bod heb arian;prynwch a bwytewch.Dewch, prynwch win a llaeth,heb arian a heb dâl.

2 Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara,a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni?Gwrandewch arnaf yn astud,a chewch fwyta'r hyn sydd dda,a mwynhau danteithion.

3 Gwrandewch arnaf, dewch ataf;clywch, a byddwch fyw.Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol,fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.

4 Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl,yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl.

5 Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini,a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat;oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw,o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu.”

6 Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael,galwch arno tra bydd yn agos.

7 Gadawed y drygionus ei ffordd,a'r un ofer ei fwriadau,a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho,ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.

8 “Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD.

9 “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.

10 Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd,a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear,a gwneud iddi darddu a ffrwythloni,a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,

11 felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau;ni ddychwel ataf yn ofer,ond fe wna'r hyn a ddymunaf,a llwyddo â'm neges.

12 “Mewn llawenydd yr ewch allan,ac mewn heddwch y'ch arweinir;bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen,a holl goed y maes yn curo dwylo.

13 Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain,a myrtwydd yn lle mieri;bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD,yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono.”