Eseia 24 BCN

Dinistr ar y Ddaear

1 Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwacáu'r ddaear,yn ei difrodi, yn ei throi â'i hwyneb i waered,ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.

2 Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad,i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres,i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr,i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.

3 Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr.Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.

4 Gwywodd y ddaear a chrino,dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.

5 Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr,am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfaua diddymu'r cyfamod tragwyddol.

6 Am hynny fe ysir y wlad gan felltith,a chosbir ei thrigolion;am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai,ac ychydig fydd yn weddill.

7 Fe â'r gwin newydd yn wan,dihoena'r winwydden,a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.

8 Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio,a thrwst y gyfeddach yn distewi,a'r delyn hyfryd yn dawel.

9 Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu;bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.

10 Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio,a phob tŷ ar glo rhag i neb fynd iddo.

11 Er galw am win yn yr heolydd,bydd diwedd ar bob cyfeddach,a diflanna llawenydd o'r wlad.

12 Anghyfanedd-dra yn unig a adewir yn y ddinas,a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.

13 Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd,fel ar adeg ysgwyd yr olewydda lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.

14 Byddant yn codi llef a llawenhau,datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.

15 Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain,i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.

16 O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd:“Gogoniant i'r Un Cyfiawn.”Ond fe ddywedaf fi, “Nychdod! Nychdod!Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll.”

17 Dychryn, pwll, maglsydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;

18 y sawl a ffy o drwst y dychryna syrth i'r pwll,a'r sawl a gyfyd o ganol y pwlla ddelir yn y fagl.Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder,ac fe gryna seiliau'r ddaear;

19 dryllir y ddaear yn deilchion,ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;

20 bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn,yn siglo fel caban gwyliwr;bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni,fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.

21 Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef,a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.

22 Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell;caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.

23 Gwaradwyddir y lloer,a chywilyddia'r haul,oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoeddar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.