Eseia 66 BCN

Gobaith yn Nuw

1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc;ple, felly, y codwch dŷ i mi,a phle y caf fan i orffwys?

2 Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd,a'r eiddof fi yw pob peth,” medd yr ARGLWYDD.“Ond fe edrychaf ar y truan,yr un o ysbryd gostyngedig,ac sy'n parchu fy ngair.

3 “Prun ai lladd ych ai lladd dyn,ai aberthu oen ai tagu ci,ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch,ai arogldarthu thus ai bendithio eilun,dewis eu ffordd eu hunain y maent,ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra

4 Ond dewisaf fi ofid iddynt,a dwyn arnynt yr hyn a ofnant;oherwydd pan elwais, ni chefais ateb,pan leferais, ni wrandawsant;gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf,a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”

5 Clywch air yr ARGLWYDD,chwi sy'n parchu ei air:“Dywedodd eich tylwyth sy'n eich casáu,ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw,‘Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu,er mwyn i ni weld eich llawenydd.’Ond cywilyddir hwy.

6 Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml,sŵn yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.

7 “A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau?A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?

8 A glywodd rhywun am y fath beth?A welodd rhywun rywbeth tebyg?A ddaw gwlad i fod mewn un dydd?A enir cenedl ar unwaith?Ond gyda bod Seion yn clafychu,bydd yn esgor ar ei phlant.

9 A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?”medd yr ARGLWYDD.“A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?”medd dy Dduw.

10 “Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd,bawb sy'n ei charu;llawenhewch gyda hi â'ch holl galon,bawb a fu'n galaru o'i phlegid,

11 er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwalluo'i bronnau diddanus,er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanugan ddigonedd ei gogoniant.”

12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon,a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol.Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys,a'ch siglo ar ei gliniau.

13 Fel y cysurir plentyn gan ei fambyddaf fi'n eich cysuro chwi;ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.

14 Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon,bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn;dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision,a'i lid yn erbyn ei elynion.

15 Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân,a'i gerbydau fel corwynt,i dalu'r pwyth mewn llid dicllon,ac i geryddu â fflamau tân.

16 Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.

17 “Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod—daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad,” medd yr ARGLWYDD.

18 “Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a dônt i weld fy ngogoniant.

19 Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sôn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.

20 Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dônt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem,” medd yr ARGLWYDD, “yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr glân i dŷ'r ARGLWYDD.

21 A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” medd yr ARGLWYDD.

22 “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd,yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD,“felly y parha eich had a'ch enw chwi.

23 O fis i fis, o Saboth i Saboth,daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen,” medd yr ARGLWYDD.

24 “Ac ânt allan a gweldcelanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn;ni bydd eu pryf yn marw,na'u tân yn diffodd;a byddant yn ffiaidd gan bawb.”