Eseia 62 BCN

Enw Newydd i Seion

1 Er mwyn Seion ni thawaf,er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw,hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar,a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.

2 Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder,a'r holl frenhinoedd dy ogoniant;gelwir arnat enw newydd,a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.

3 Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD,ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.

4 Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig,ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd;eithr enwir di, Heffsiba,a'th wlad, Beula,oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot,a phriodir dy wlad.

5 Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc,bydd dy adeiladydd yn dy briodi di;fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod,felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.

6 Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyrnad ydynt yn tewi ddydd na nos;chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD,peidiwch â distewi,

7 na rhoi llonydd iddo,nes iddo sefydlu Jerwsalem,a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.

8 Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol,“Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn,ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;

9 ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta,ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano;y rhai a'i cynnull fydd yn yfedoddi mewn i gynteddau fy nghysegr.”

10 Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth,paratowch ffordd i'r bobloedd;codwch briffordd a symudwch y cerrig,dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.

11 Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDDi bellafoedd y ddaear,“Dywedwch wrth ferch Seion,‘Y mae dy achubydd yn dyfod;y mae ei wobr yn ei law,ac y mae ei dâl ganddo.’ ”

12 Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd,Gwaredigion yr ARGLWYDD,ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd,Dinas nas gwrthodwyd.