Eseia 54 BCN

Gogoniant Seion

1 “Cân di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor;dyro gân, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor;oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod,”medd yr ARGLWYDD.

2 “Helaetha faint dy babell,estyn allan lenni dy drigfannau;gollwng y rhaffau allan i'r pen,a sicrha'r hoelion.

3 Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith;bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd,ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig.

4 Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di,ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat;oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid,ac ni chofi bellach am warth dy Weddwdod.

5 Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw;Sanct Israel yw dy waredydd,a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6 Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol,y galwodd yr ARGLWYDD di—gwraig ifanc wedi ei gwrthod,”medd dy Dduw.

7 “Am ennyd fechan y'th adewais,ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr.

8 Am ychydig, mewn dicter moment,cuddiais fy wyneb rhagot;ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,”medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.

9 “Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa,pan dyngais nad âi dyfroedd Noabyth mwyach dros y ddaear;felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy,na'th geryddu ychwaith.

10 Er i'r mynyddoedd symud,ac i'r bryniau siglo,ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt,a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,”medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.

11 “Y druan helbulus, ddigysur!Rwyf am osod dy feini mewn morter,a'th sylfeini mewn saffir.

12 Gwnaf dy dyrau o ruddem,a'th byrth o risial;bydd dy fur i gyd yn feini dethol,

13 a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD.Daw llwyddiant mawr i'th blant,

14 a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder;byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat,ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat.

15 Os bydd rhai yn ymosod arnat,nid oddi wrthyf fi y daw hyn;bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.

16 Edrych, myfi a greodd y gof,sy'n chwythu'r marwor yn dân,ac yn llunio arf at ei waith;myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.

17 Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn;gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn.Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,”medd yr ARGLWYDD.