Eseia 42 BCN

Gwas yr ARGLWYDD

1 “Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal,f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.Rhoddais fy ysbryd ynddo,i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.

2 Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais,na pheri ei glywed yn yr heol.

3 Ni fydd yn dryllio corsen ysig,nac yn diffodd llin yn mygu;bydd yn cyhoeddi barn gywir.

4 Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio,nes iddo osod barn ar y ddaear;y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”

5 Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD,a greodd y nefoedd a'i thaenu allan,a luniodd y ddaear a'i chynnyrch,a roddodd anadl i'r bobl sydd arni,ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:

6 “Myfi yw'r ARGLWYDD;gelwais di mewn cyfiawnder,a gafael yn dy law;lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl,yn oleuni cenhedloedd;

7 i agor llygaid y deillion,i arwain caethion allan o'r carchar,a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.

8 Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw;ni roddaf fy ngogoniant i neb arall,na'm clod i ddelwau cerfiedig.

9 Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,a mynegaf yn awr bethau newydd;cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”

Moliant i'r ARGLWYDD

10 Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch ei glod o eithaf y ddaear;bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol,yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.

11 Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.

12 Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.

13 Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr,fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid;y mae'n bloeddio, yn codi ei lais,ac yn trechu ei elynion.

14 “Bûm dawel dros amser hir,yn ddistaw, ac yn ymatal;yn awr llefaf fel gwraig yn esgor,a gwingo a griddfan.

15 Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith,a pheri i'w holl lysiau gleision wywo;gwnaf afonydd yn ynysoedd,a llynnau yn sychdir.

16 Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr,a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant;paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen,ac unionaf ffyrdd troellog.Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.

17 Ond cilio mewn cywilydda wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunodac yn dweud wrth ddelwau tawdd,‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ”

Israel yn Fyddar a Dall

18 “ ‘Chwi sy'n fyddar, clywch;chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch.

19 Does neb mor ddall â'm gwas,nac mor fyddar â'r negesydd a anfonaf;does neb mor ddall â'r un ymroddedig,mor ddall â gwas yr ARGLWYDD.

20 Er iddo weld llawer, nid yw'n eu hystyried;er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando.’

21 Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder,fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus;

22 ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn;cawsant bawb eu dal mewn tyllau,a'u cuddio mewn celloedd,yn ysbail heb waredydd,yn anrhaith heb neb i ddweud, ‘Rho'n ôl.’

23 Pwy ohonoch a all wrando ar hyn,ac ystyried a gwrando i'r diwedd?

24 Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith,a rhoi Israel i'r ysbeilwyr?Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn?Nid oeddent am rodio yn ei ffyrddna gwrando ar ei gyfraith;

25 felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt,a chynddaredd y frwydr.Caeodd y fflam amdano,ond ni ddysgodd ei wers;llosgodd, ond nid ystyriodd.”