Eseia 8 BCN

Arwydd i'r Bobl

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, ‘I Maher-shalal-has-bas’;

2 a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia.”

3 Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Galw ei enw Maher-shalal-has-bas,

4 oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, ‘Fy nhad’ neu ‘Fy mam’, bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria.”

Dinistr Brenin Asyria

5 Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,

6 “Oherwydd i'r bobl hyn wrthoddyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel,a chrynu gan ofn o flaen Resin a mab Remaleia,

7 am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnyntddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr,brenin Asyria a'i holl ogoniant.Fe lifa dros ei holl sianelau,a thorri dros ei holl gamlesydd;

8 fe ysguba trwy Jwda fel dilyw,a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf.Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir,O Immanuel.”

9 Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir;gwrandewch, chwi bellafion byd;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.

10 Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;dywedwch air, ac ni saif,Oherwydd y mae Duw gyda ni.

Ofni Duw

11 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:

12 “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,nac arswydo rhagddo.

13 Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.

14 Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15 A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”

16 Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17 Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;arhosaf yn eiddgar amdano.

18 Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.

19 A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw

20 am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.

21 Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw.

22 A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.