1 Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
2 Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear!Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD:“Megais blant a'u meithrin,ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.
3 Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau,a'r asyn breseb ei berchennog;ond nid yw Israel yn adnabod,ac nid yw fy mhobl yn deall.”
4 O genhedlaeth bechadurus,pobl dan faich o ddrygioni,epil drwgweithredwyr,plant anrheithwyr!Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD,wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.
5 I ba ddiben y trewir chwi mwyach,gan eich bod yn parhau i wrthgilio?Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd,a'ch holl galon yn ysig;
6 o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach,dim ond archoll a chlais a dolur crawnllydheb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew.
7 Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw,a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gŵydd;y mae'n ddiffaith fel Sodom ar ôl ei dinistrio.
8 Gadawyd Seionfel caban mewn gwinllan,fel cwt mewn gardd cucumerau,fel dinas dan warchae.
9 Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan,byddem fel Sodom, a'r un ffunud â Gomorra.
10 Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom,gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.
11 “Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD.“Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid;ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.
12 Pan ddewch i ymddangos o'm blaen,pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?
13 Peidiwch â chyflwyno rhagor o offrymau ofer;y mae arogldarth yn ffiaidd i mi.Gŵyl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa—ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd.
14 Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd-loerau a'ch gwyliau sefydlog;aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn.
15 Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi,trof fy llygaid ymaith;er i chwi amlhau eich ymbil,ni fynnaf wrando arnoch.Y mae eich dwylo'n llawn gwaed;
16 ymolchwch, ymlanhewch.Ewch â'ch gweithredoedd drwg o'm golwg;
17 peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni.Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig,amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.
18 “Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd,” medd yr ARGLWYDD.“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad,fe fyddant cyn wynned â'r eira;pe baent cyn goched â phorffor,fe ânt fel gwlân.
19 Os bodlonwch i ufuddhau,cewch fwyta o ddaioni'r tir;
20 ond os gwrthodwch, a gwrthryfela,fe'ch ysir â chleddyf.”Genau'r ARGLWYDD a'i llefarodd.
21 O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain!Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi,ond bellach llofruddion.
22 Aeth dy arian yn sorod,a'th win yn gymysg â dŵr.
23 Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyrac yn bartneriaid lladron;y maent i gyd yn caru cildwrnac yn chwilio am wobrau;nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad,ac ni roddant sylw i gŵyn y weddw.
24 Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel,“Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino,a dialaf ar fy ngelynion.
25 Trof fy llaw yn dy erbyn,puraf dy sorod â thrwyth,a symudaf dy holl amhuredd.
26 Trof dy farnwyr i fod fel cynt,a'th gynghorwyr fel yn y dechrau.Ac wedi hynny fe'th elwiryn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon.”
27 Gwaredir Seion trwy farn,a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder.
28 Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd,a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.
29 Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych,a gwridwch dros eich gerddi dethol;
30 byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo,ac fel gardd heb ddŵr ynddi.
31 Bydd y cadarn fel cynnud,a'i orchest fel gwreichionen;fe losgant ill dau ynghyd,ac ni all neb eu diffodd.