Eseia 58 BCN

Gwir Ympryd

1 “Gwaedda'n uchel, paid ag arbed,cod dy lais fel utgorn;mynega eu gwrthryfel i'm pobl,a'u pechod i dŷ Jacob.

2 Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol,ac yn deisyfu gwybod fy ffordd;ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder,heb droi cefn ar farn eu Duw,dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf,ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw.

3 “ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych?Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant.Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych,a gyrru ar eich gweision yn galetach.

4 Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl,a tharo â dyrnod maleisus;nid yw'r fath ddiwrnod o ymprydyn dwyn eich llais i fyny uchod.

5 Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais—diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun?A yw i grymu ei ben fel brwynen,a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw?Ai hyn a elwi yn ympryd,yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?

6 “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,a llacio clymau'r iau,gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,a dryllio pob iau?

7 Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,dilladu'r noeth pan y'i gweli,a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?

8 Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.

9 Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’“Os symudi'r gorthrwm ymaith,os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,

10 os rhoddi o'th fodd i'r anghenus,a diwallu angen y cystuddiol,yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch,a bydd y caddug fel canol dydd.

11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych,ac yn cryfhau dy esgyrn;yna byddi fel gardd ddyfradwy,ac fel ffynnon ddŵra'i dyfroedd heb ballu.

12 Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnodac yn codi ar yr hen sylfeini;fe'th elwir yn gaewr bylchau,ac yn adferwr tai adfeiliedig.

13 “Os peidi â sathru'r Saboth dan draed,a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd,ond galw'r Saboth yn hyfrydwch,a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus;os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio,na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;

14 yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD.Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear,a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.”Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.