1 Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf,oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinioi gyhoeddi newyddion da i'r tlodion,a chysuro'r toredig o galon;i gyhoeddi rhyddid i'r caethion,a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;
2 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDDa dydd dial ein Duw ni;i ddiddanu pawb sy'n galaru,
3 a gofalu am alarwyr Seion;a rhoi iddynt goron yn lle lludw,olew llawenydd yn lle galar,mantell moliant yn lle digalondid.Gelwir hwy yn brennau cyfiawnderwedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
4 Ailadeiladant hen adfeilion,cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd;atgyweiriant ddinasoedd diffaithac anghyfanedd-dra llawer oes.
5 Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd,ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.
6 Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD,a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni;cewch fwyta o olud y cenhedloeddac ymffrostio yn eu cyfoeth.
7 Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd,yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan,fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad,a chael llawenydd di-baid.
8 “Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder,ac yn casáu trais a chamwri;rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth,a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd,a'u hil ymhlith y bobloedd;bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabodyn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.”
10 Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD,gorfoleddaf yn fy Nuw;canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth,taenodd fantell cyfiawnder drosof,fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch,a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.
11 Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu,a'r ardd i'r hadau egino,felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliantdarddu gerbron yr holl genhedloedd.