Eseia 27 BCN

Gwaredigaeth i Israel

1 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD â'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr.

2 Yn y dydd hwnnw y canwch gân y winllan ddymunol:

3 “Myfi, yr ARGLWYDD, fydd yn ei chadw,ei dyfrhau bob munud,a'i gwylio nos a dydd,rhag i neb ei cham-drin.

4 Nid oes gennyf lid yn ei herbyn;os drain a mieri a rydd imi,rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd;

5 ond os yw am afael ynof am sicrwydd, gwnaed heddwch â mi,gwnaed heddwch â mi.”

6 Fe ddaw'r adeg i Jacob fwrw gwraidd,ac i Israel flodeuo a blaguro,a llenwi'r ddaear i gyd â chnwd.

7 A drawodd Duw ef fel y trawodd ef yr un a'i trawodd?A laddwyd ef fel y lladdodd ef yr un a'i lladdodd?

8 Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu,ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.

9 Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob,a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd—gwneud holl feini'r allorfel cerrig calch wedi eu malu,heb bost nac allor yn sefyll.

10 Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig,yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir,lle y mae'r llo yn pori a gorwedd,ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu.

11 Pan wywa'i changau, fe'u torrir,a daw'r gwragedd a chynnau tân â hwy.Am mai pobl heb ddeall ydynt,ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd,na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr â hwy.

12 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn dyrnu ŷdo'r afon Ewffrates hyd nant yr Aifft,ac fe gewch chwi, blant Israel, eich lloffa bob yn un ac un.

13 Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr;ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria,a'r rhai oedd ar chwâl yn yr Aifft,ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd,yn Jerwsalem.