Eseia 3 BCN

Barn ar Jerwsalem a Jwda

1 Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwday gynhaliaeth a'r ffon—yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddŵr—

2 y gŵr cadarn, y rhyfelwr,y barnwr a'r proffwyd,y dewinwr a'r henadur,

3 y capten a'r swyddog,y cynghorwr a'r swynwr celfydd,a'r sawl sy'n deall hudoliaeth.

4 Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynta phlantos i'w rheoli;

5 a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd,a phob un ei gymydog;bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus.

6 Pan gaiff rhywun afael ar ei frawdyn nhŷ ei dad, fe ddywed,“Y mae gennyt ti glogyn;bydd di'n bennaeth arnom;bydded y pentwr hwn o garnedddan dy awdurdod di.”

7 Ond yn y dydd hwnnw fe etyb,“Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch.Nid oes bara yn fy nhŷ,na chlogyn ychwaith;ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth.”

8 Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda;y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD,yn herio ei fawrhydi.

9 Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn,ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom.Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.

10 Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn,canys cânt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.

11 Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno,canys fe gaiff yr hyn a haedda.

12 Plant sy'n gorthrymu fy mhobl,a gwragedd sy'n eu rheoli.O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain,ac yn drysu trywydd dy lwybrau.

Duw yn Barnu

13 Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,ac yn barod i farnu ei bobl.

14 Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farnyn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion:“Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr;y mae cyfran y tlawd yn eich tai.

15 Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhoblac yn mathru wyneb y tlawd?”medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

Rhybuddio Merched Jerwsalem

16 Dywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd i ferched Seion dorsythu,a cherdded o amgylch â'u gyddfau'n ymestyn allan,a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd,a rhodio â fferledau am eu traed,

17 bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion,bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy.”

18 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn—y fferledau, y coronigau, y cilgantiau,

19 y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion,

20 y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau;

21 y fodrwy-sêl, y fodrwy trwyn;

22 y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau;

23 y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb.

24 Yn lle perarogl bydd drewdod,yn lle gwregys bydd rhaff;yn lle tresi o wallt bydd moelni,yn lle mantell bydd sachliain,yn lle prydferthwch bydd marc llosg.

25 Syrth dy wŷr gan gleddyf,a'th wŷr nerthol mewn rhyfel;

26 bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru,a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.