1 “Gwae chwi, blant gwrthryfelgar,” medd yr ARGLWYDD,“sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi,ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi,ac yn pentyrru pechod ar bechod.
2 Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn,i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.
3 Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch,a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
4 Canys, er bod ei swyddogion yn Soana'i genhadau mor bell â Hanes,
5 fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd,nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.”
6 Oracl am anifeiliaid y Negef:Trwy wlad caledi a loes,gwlad y llewes a'r llew,y wiber a'r sarff hedegog,fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnoda'u trysorau ar grwmp camelod,at bobl ddi-fudd.
7 Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag;am hynny galwaf hi, Rahab segur.
8 Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech,a nodi hyn mewn llyfr,iddo fod mewn dyddiau a ddawyn dystiolaeth barhaol.
9 Pobl wrthryfelgar yw'r rhain,plant celwyddog,plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,
10 ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”,ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn,ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.
11 Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn,parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.”
12 Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn:“Am i chwi wrthod y gair hwnac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,
13 bydd y drygioni hwn yn eich golwgfel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd,ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;
14 bydd yn torri fel llestr crochenydd,yn chwilfriw ulw mân;ni cheir ymysg ei ddarnaugragen i godi tân oddi ar aelwyd,neu i godi dŵr o ffos.”
15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel:“Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig,wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn.Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
16 ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi.‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch.Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.
17 Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un;ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadaelfel lluman ar ben mynydd,ac fel baner ar fryn.”
18 Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyli gael trugarhau wrthych,ac yn barod i ddangos tosturi.Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD;gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.
19 Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb.
20 Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.
21 Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.”
22 Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”
23 Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,
24 a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
25 Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau.
26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.
27 Wele, daw enw'r ARGLWYDD o bell;bydd ei ddigofaint yn llosgi a'i gynddaredd yn llym,ei wefusau'n llawn o ddictera'i dafod fel tân ysol,
28 ei anadl fel llifeiriant yn rhuthroac yn cyrraedd at y gwddf;bydd yn hidlo'r cenhedloedd â gogr dinistriol,ac yn gosod ffrwyn ym mhennau'r bobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
29 Ond i chwi fe fydd cân, fel ar noson o ŵyl sanctaidd;a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i sŵn ffliwtwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.
30 Bydd yr ARGLWYDD yn peri clywed ei lais mawreddog,ac yn dangos ei fraich yn taromewn dicter llidiog a fflamau tân ysol,mewn torgwmwl a thymestl a chenllysg.
31 Bydd Asyria yn brawychu rhag sŵn yr ARGLWYDD,pan fydd ef yn taro â'i wialen.
32 Wrth iddo'i chosbi, bydd pob curiad o'i wialen,pan fydd yr ARGLWYDD yn ei gosod arni,yn cadw'r amser i dympanau a thelynau,yn y rhyfeloedd pan gyfyd ei fraich i ymladd yn eu herbyn.
33 Oherwydd darparwyd Toffet erstalwm,a'i baratoi i'r brenin,a'i wneud yn ddwfn ac yn eang,a'i bwll tân yn llawn o goed,ac anadl yr ARGLWYDD fel ffrwd o frwmstanyn cynnau'r tân.