1 Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael ac wedi gwella.
2 Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei dŷ nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.
3 Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, “Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?” Atebodd Heseceia, “Daethant ataf o wlad bell, o Fabilon.”
4 Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysordy nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”
5 Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air ARGLWYDD y Lluoedd:
6 ‘Wele'r dyddiau'n dyfod pan ddygir pob peth sydd yn dy dŷ di, a phob peth a grynhôdd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.
7 ‘Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, a byddant yn weision ystafell yn llys brenin Babilon.’ ”
8 Yna dywedodd Heseceia wrth Eseia, “o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru.” Meddyliai, “Bydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i o leiaf.”