Eseia 45 BCN

Galw Cyrus

1 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog,yr un y gafaelais yn ei lawi ddarostwng cenhedloedd o'i flaen,i ddiarfogi brenhinoedd,i agor dorau o'i flaen,ac ni chaeir pyrth rhagddo:

2 “Mi af o'th flaen dii lefelu'r mynyddoedd;torraf y dorau pres,a dryllio'r barrau haearn.

3 Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,wedi eu cronni mewn mannau dirgel,er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.

4 Er mwyn fy ngwas Jacob,a'm hetholedig Israel,gelwais di wrth dy enw,a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.

5 Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;ar wahân i mi nid oes Duw.Gwregysais di, er na'm hadwaenit,

6 er mwyn iddynt wybod,o godiad haul hyd ei fachlud,nad oes neb ond myfi.Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,

7 yn llunio goleuniac yn creu tywyllwch,yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.

8 “Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;tywallted yr wybren gyfiawnder.Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth eginoac i gyfiawnder flaguro.Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

9 “Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,darn o lestr yn erbyn y crochenydd.A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?

10 Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”

11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Sanct Israel a'i luniwr:“A ydych yn fy holi i am fy mhlant,ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?

12 Myfi a wnaeth y ddaear,a chreu pobl arni;fy llaw i a estynnodd y nefoedd,a threfnu ei holl lu.

13 Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,ac unioni ei holl lwybrau.Ef fydd yn codi fy ninas,ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,ond nid am bris nac am wobr,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

14 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD:“Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid talyn croesi atat ac yn eiddo i ti;dônt ar dy ôl mewn cadwyni,ymgrymant i ti a chyffesu,‘Yn sicr y mae Duw yn eich plith,ac nid oes neb ond ef yn Dduw.’ ”

15 Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti,Dduw Israel, y Gwaredydd.

16 Cywilyddir a Gwaradwyddir hwy i gyd;â'r seiri delwau oll yn waradwydd,

17 ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDDâ gwaredigaeth dragwyddol;ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddirbyth bythoedd.

18 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD,creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw,lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd,yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd,ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio:“Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;

19 nid mewn dirgelwch y lleferais,nid mewn man tywyll o'r ddaear;ni ddywedais wrth feibion Jacob,‘Ceisiwch fi mewn anhrefn.’Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder,ac yn mynegi uniondeb.

20 “Ymgasglwch, dewch yma,nesewch gyda'ch gilydd,rai dihangol y cenhedloedd.Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau prena'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.

21 Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos;boed iddynt gymryd cyngor ynghyd.Pwy a fynegodd hyn o'r blaen?Pwy a'i dywedodd o'r dechrau?Onid myfi, yr ARGLWYDD?Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.Nid oes neb ond myfi.

22 Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu,canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.

23 Ar fy llw y tyngais;gwir a ddaeth allan o'm genau,gair na ddychwel:i mi bydd pob glin yn plygua phob tafod yn tyngu.

24 Fe ddywedir amdanaf,‘Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth’.”Bydd pob un a ddigiodd wrthoyn dod ato ef mewn cywilydd.

25 Cyfiawnheir holl deulu Israel,ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.