Eseia 50 BCN

Pechod Israel ac Ufudd-dod y Gwas

1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam,a roddais i'w gyrru ymaith?Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi?O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi,ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.

2 Pam nad oedd neb yma pan ddeuthum,na neb yn ateb pan elwais?A yw fy llaw yn rhy fyr i achub,neu a wyf yn rhy wan i waredu?Gwelwch, rwy'n sychu'r môr â'm dicter,ac yn troi afonydd yn ddiffeithwch;y mae eu pysgod yn drewi o ddiffyg dŵr,ac yn trengi o sychder.

3 Rwy'n gwisgo'r nefoedd â galarwisg,ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt.”

4 Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu,i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;bob bore y mae'n agor fy nghlusti wrando fel un yn dysgu.

5 Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

6 Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

7 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,am hynny ni chaf fy sarhau;felly gosodaf fy wyneb fel callestr,a gwn na'm cywilyddir.

8 Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law.Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd;pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.

9 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal:pwy a'm condemnia?Byddant i gyd yn treulio fel dilledyna ysir gan wyfyn.

10 Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD,gwrandawed ar lais ei was.Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo,ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD,a phwyso ar ei Dduw.

11 Ond chwi i gyd, sy'n cynnau tânac yn goleuo tewynion,rhodiwch wrth lewyrch eich tân,a'r tewynion a oleuwyd gennych.Dyma'r hyn a ddaw i chwi o'm llaw:byddwch yn gorwedd mewn dioddefaint.