Eseia 43 BCN

Gwir Waredydd Israel

1 Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDDa'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel:“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di;galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.

2 Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi;a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot.Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir,a thrwy'r fflamau, ni losgant di.

3 Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,Sanct Israel, yw dy Waredydd;rhof yr Aifft yn iawn trosot,Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.

4 Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg,yn ogoneddus, a minnau'n dy garu,rhof eraill yn gyfnewid amdanat,a phobloedd am dy einioes.

5 Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi.Dygaf dy had o'r dwyrain,casglaf di o'r gorllewin;

6 gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’,ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl;tyrd â'm meibion o bell,a'm merched o eithafoedd byd—

7 pob un sydd â'm henw arno,ac a greais i'm gogoniant,ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”

Tystion i Dduw

8 Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt,y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.

9 Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd,a'r bobloedd wedi eu cynnull.Pwy yn eu plith a fynega hyn,a chyhoeddi i ni y pethau gynt?Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos,a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.

10 “Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD,“fy ngwas, a etholaiser mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof,a deall mai myfi yw Duw.Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen,ac ni fydd yr un ar fy ôl.

11 Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD;nid oes waredydd ond myfi.

12 Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi,pan nad oedd duw dieithr yn eich plith;ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD,“mai myfi yw Duw.

13 O'r dydd hwn, myfi yw Duw;ni all neb waredu o'm llaw.Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”

14 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,eich Gwaredydd, Sanct Israel:“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,ac yn dryllio'r barrau i gyd,a throi cân y Caldeaid yn wylofain.

15 Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”

16 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,a agorodd ffordd yn y môra llwybr yn y dyfroedd enbyd;

17 a ddug allan gerbyd a march,byddin a dewrion,a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,yn darfod ac yn diffodd fel llin:

18 “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.

19 Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch.

20 Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,y bleiddiaid a'r estrys,am imi roi dŵr yn yr anialwchac afonydd yn y diffeithwch,er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,

21 sef y bobl a luniais i mi fy hun,iddynt fynegi fy nghlod.

22 “Jacob, ni elwaist arnaf fi,ond blinaist arnaf, Israel.

23 Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;ni roddais faich bwydoffrwm arnat,na'th flino am arogldarth.

24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian,na'm llenwi â'th ebyrth breision;ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,blinaist fi â'th gamweddau.

25 “Myfi, myfi yw Duw,sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun,heb alw i gof dy bechodau.

26 Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd;gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.

27 Pechodd dy dad cyntaf,a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,

28 a halogodd dy dywysogion fy nghysegr;felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio,ac Israel yn waradwydd.”