Eseia 38 BCN

Gwaeledd Heseceia

1 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2 Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD,

3 a dweud, “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.

4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,

5 “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.

6 A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.

7 Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.

8 Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.

9 Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:

10 Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;

11 dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw,ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.

12 Dygwyd fy nhrigfan oddi arnafa'i symud i ffwrdd fel pabell bugail;fel gwehydd rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben,i'w torri ymaith o'r gwŷdd.O fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

13 O fel rwy'n dyheu am y bore!Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

14 Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,rwy'n cwynfan fel colomen.Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”

15 Beth allaf fi ei ddweud?Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth.Ciliodd fy nghwsg i gyd,am ei bod mor chwerw arnaf.

16 ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw,ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd.Adfer fi, gwna i mi fyw.

17 Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi;yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw,a thaflu fy holl bechodau y tu ôl i'th gefn.

18 Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti,nac angau yn dy glodfori;ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwllobeithio am dy ffyddlondeb.

19 Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti,fel y gwnaf finnau heddiw;gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.

20 Yr ARGLWYDD a'm gwared i;am hynny canwn â'n hofferynnau llinynnolholl ddyddiau ein bywydyn nhŷ'r ARGLWYDD.

21 Yr oedd Eseia wedi dweud, “Gadewch iddynt gymryd swp o ffigys, a'i osod ar y cornwyd, ac fe fydd byw.”

22 A dywedodd Heseceia, “Beth yw'r prawf y caf fynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD?”