Eseia 9 BCN

Geni Bachgen

1 Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.

2 Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr;y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudewa gafodd lewyrch golau.

3 Amlheaist orfoledd iddynt,chwanegaist lawenydd;llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf,ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.

4 Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt,a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd,a'r ffon oedd gan eu gyrrwr,fel yn nydd Midian.

5 Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes,a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed,fe'u llosgir fel tanwydd.

6 Canys bachgen a aned i ni,mab a roed i ni,a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,Tad bythol, Tywysog heddychlon”.

7 Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,nac ar ei heddwchi orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth,i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder,o hyn a hyd byth.Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.

Digofaint Duw yn Erbyn Israel

8 Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,ac fe ddisgyn ar Israel.

9 Gostyngir yr holl bobl—Effraim a thrigolion Samaria—sy'n dweud mewn balchder a thraha,

10 “Syrthiodd y priddfeini,ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd;torrwyd y prennau sycamor,ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.”

11 Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn;y mae'n cyffroi eu gelynion.

12 Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewinyn ysu Israel a'u safnau'n agored.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

13 Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd,na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;

14 am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon,y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;

15 yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen,y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.

16 Y rhai sy'n arwain y bobl hynsy'n peri iddynt gyfeiliorni;a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.

17 Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc,ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon.Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus,a phob genau yn traethu ynfydrwydd.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

18 Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân,yn ysu'r mieri a'r drain,yn cynnau yn nrysni'r coed,ac yn codi'n golofnau o fwg.

19 Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoeddy mae'r wlad ar dân;y mae'r bobl fel tanwydd,ac nid arbedant ei gilydd.

20 Cipia un o'r dde, ond fe newyna;bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir.Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant—

21 Manasse Effraim, ac Effraim Manasse,ac ill dau yn erbyn Jwda.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.