Eseia 59 BCN

Pechod, Cyffes ac Adferiad y Bobl

1 Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub,na'i glust yn rhy drwm i glywed;

2 ond eich camweddau chwi a ysgaroddrhyngoch a'ch Duw,a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wynebfel nad yw'n eich clywed.

3 Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed,a'ch bysedd gan gamwedd;y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd,a'ch tafod yn sibrwd twyll.

4 Nid oes erlynydd tegna diffynnydd gonest,ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll,yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.

5 Y maent yn deor wyau gwiberod,ac yn nyddu gwe pryf copyn;os bwyti o'r wyau, byddi farw;os torri un, daw neidr allan.

6 Nid yw gwe pryf copyn yn gwneud dillad;nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni;ofer yw eu gweithredoedd i gyd,a'u dwylo'n llunio trais.

7 Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd,ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed;bwriadau maleisus yw eu bwriadau,distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;

8 ni wyddant am ffordd heddwch,nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau;y mae eu ffyrdd i gyd yn gam,ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.

9 Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym,ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom;edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn,am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;

10 rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion,yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid;rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos,fel y meirw yn y cysgodion.

11 Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth,yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod;rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn,am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.

12 Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron,a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn;y mae'n troseddau'n amlwg inni,ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:

13 gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD,troi ymaith oddi wrth ein Duw,llefaru trawster a gwrthgilio,myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.

14 Gwthir barn o'r neilltu,ac y mae cyfiawnder yn cadw draw,oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref,ac ni all uniondeb ddod i mewn.

15 Y mae gwirionedd yn eisiau,ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni.Gwelodd yr ARGLWYDD hyn,ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwgnad oedd barn i'w chael.

16 Gwelodd nad oedd neb yn malio,rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd;yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo,a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.

17 Gwisgodd gyfiawnder fel llurig,a helm iachawdwriaeth am ei ben;gwisgodd ddillad dialedd,a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.

18 Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant—llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion;bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.

19 Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin,a'i ogoniant yn y dwyrain;oherwydd fe ddaw fel afon mewn llifyn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.

20 “Fe ddaw gwaredydd i Seion,at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,”medd yr ARGLWYDD.

21 “Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.