1 “Gwrandewch hyn, dŷ Jacob,y rhai a elwir ar enw Israel,sy'n tarddu o had Jwda,sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel,heb fod yn onest na didwyll.
2 Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd,a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
3 “Mynegais y pethau cyntaf erstalwm,eu cyhoeddi â'm genau fy hun a'u gwneud yn hysbys;ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd.
4 Gwyddwn dy fod yn ystyfnig,a'th war fel gewyn haearn,a'th dalcen fel pres;
5 am hynny rhois wybod i ti erstalwm,a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd,rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth,fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’
6 Clywaist a gwelaist hyn i gyd;onid ydych am ei gydnabod?Ac yn awr rwyf am fynegi i chwi bethau newydd,pethau cudd na wyddoch ddim amdanynt.
7 Yn awr y crëwyd hwy, ac nid erstalwm,ac ni chlywaist ddim amdanynt cyn heddiw,rhag i ti ddweud, ‘Roeddwn i'n gwybod.’
8 Nid oeddit wedi clywed na gwybod;erstalwm roedd dy glust heb agor;oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf,ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr.”
9 “Er mwyn fy enw ateliais fy llid,er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa.
10 Purais di, ond nid fel arian;profais di ym mhair cystudd.
11 Er fy mwyn fy hun y gwneuthum hyn;a gânt halogi fy enw?Ni roddaf fy anrhydedd i arall.”
12 “Clyw fi, Jacob,ac Israel, yr un a elwais:Myfi yw;myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd.
13 Fy llaw a sylfaenodd y ddaear,a'm deheulaw a daenodd y nefoedd;pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.”
14 “Dewch bawb at eich gilydd a gwrando;pwy ohonynt a fynegodd hyn?Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffifydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.
15 Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd;dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd.
16 Dewch ataf, clywch hyn:O'r dechrau ni leferais yn ddirgel;o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.”Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUWa'm hanfonodd i.
17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,dy Waredydd, Sanct Israel:“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu er dy les,ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.
18 Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn,byddai dy heddwch fel yr afon,a'th gyfiawnder fel tonnau'r môr;
19 a byddai dy had fel y tywod,a'th epil fel ei raean,a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd.”
20 Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid;mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd,cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear;dywedwch, “Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob.”
21 Nid oedd arnynt sychedpan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial;gwnaeth i ddŵr lifo iddynt o'r graig;holltodd y graig a phistyllodd y dŵr.
22 “Nid oes llwyddiant i'r annuwiol,” medd yr ARGLWYDD.