1 Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r holl genhedloedd ato,
3 a daw pobloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob;bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd,a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4 Barna ef rhwng cenhedloedd,a thorri'r ddadl i bobloedd lawer;curant eu cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5 Tŷ Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.
6 Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl,oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain,a swynwyr fel y Philistiaid,ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
7 Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur,ac nid oes terfyn ar eu trysorau;y mae eu gwlad yn llawn o feirch,ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
8 y mae eu gwlad yn llawn o eilunod;ymgrymant i waith eu dwylo,i'r hyn a wnaeth eu bysedd.
9 Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth,ac y syrth pob un—paid â maddau iddynt.
10 Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwchrhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
11 Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth,a gostyngir balchder pob un;yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.
12 Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddyddyn erbyn pob un balch ac uchel,yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,
13 yn erbyn holl gedrwydd Lebanon,sy'n uchel a dyrchafedig;yn erbyn holl dderi Basan,
14 yn erbyn yr holl fynyddoedd uchelac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
15 yn erbyn pob tŵr uchelac yn erbyn pob magwyr gadarn;
16 yn erbyn holl longau Tarsisac yn erbyn yr holl gychod pleser.
17 Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth,ac fe syrth balchder y natur ddynol.Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.
18 Â'r eilunod heibio i gyd.
19 Â pawb i holltau yn y creigiauac i dyllau yn y ddaear,rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
20 Yn y dydd hwnnw bydd poblyn taflu eu heilunod ariana'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli,yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;
21 ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiauac i holltau yn y clogwyni,rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
22 Peidiwch â gwneud dim â meidrolynsydd ag anadl yn ei ffroenau,canys pa werth sydd iddo?