Eseia 56 BCN

Duw a'r Cenhedloedd

1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder;oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod,a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.

2 Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly,a'r un sy'n glynu wrth hyn,yn cadw'r Saboth heb ei halogi,ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg.”

3 Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD,“Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.”Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.”

4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothauac yn dewis y pethau a hoffafac yn glynu wrth fy nghyfamod,

5 y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriaugofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched;rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.

6 A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD,yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw,sy'n dod yn weision iddo ef,yn cadw'r Saboth heb ei halogiac yn glynu wrth fy nghyfamod—

7 dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd,a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi,a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor;oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”

8 medd yr Arglwydd DDUW,sy'n casglu alltudion Israel.“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”

Cyhuddo'r Drygionus

9 Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt,holl anifeiliaid y coed.

10 Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall;y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth,yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,

11 yn gŵn barus na wyddant beth yw digon.Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall,pob un yn troi i'w ffordd ei hun,a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,

12 ac yn dweud, “Dewch, af i gyrchu gwin;gadewch i ni feddwi ar ddiod gadarn;bydd yfory'n union fel heddiw,ond yn llawer gwell.”