2 bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno,yn ysbryd doethineb a deall,yn ysbryd cyngor a grym,yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;
3 ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD.Nid wrth yr hyn a wêl y barna,ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,
4 ond fe farna'r tlawd yn gyfiawna dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear.Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau,ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
5 Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynaua ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.
6 Fe drig y blaidd gyda'r oen,fe orwedd y llewpard gyda'r myn;bydd y llo a'r llew yn cydbori,a bachgen bychan yn eu harwain.
7 Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth,a'u llydnod yn cydorwedd;bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
8 Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.