1 Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,“Molaf di, O ARGLWYDD;er iti ddigio wrthyf,trodd dy lid, a rhoist gysur imi.
2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth;rwy'n hyderus, ac nid ofnaf;canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân,ac ef yw fy iachawdwr.”
3 Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵro ffynhonnau iachawdwriaeth.
4 Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,“Diolchwch i'r ARGLWYDD,galwch ar ei enw;hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd,cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.
5 Canwch salmau i'r ARGLWYDD,canys enillodd fuddugoliaeth;hysbyser hyn yn yr holl dir.