12 Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth,a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13 Am hynny fe gryna'r nefoeddac ysgydwir y ddaear o'i lle,oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoeddyn nydd angerdd ei lid.
14 Fel ewig wedi ei tharfu,fel praidd heb neb i'w corlannu,bydd pawb yn troi at ei dylwyth,a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15 Trywenir pob un a geir,a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.
16 Dryllir eu plant o flaen eu llygaid,ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17 Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid,rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt,ac na roddant bris ar aur.
18 Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc;ni thosturiant wrth ffrwyth y groth,nac edrych yn drugarog ar blant.