14 Fel ewig wedi ei tharfu,fel praidd heb neb i'w corlannu,bydd pawb yn troi at ei dylwyth,a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15 Trywenir pob un a geir,a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.
16 Dryllir eu plant o flaen eu llygaid,ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17 Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid,rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt,ac na roddant bris ar aur.
18 Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc;ni thosturiant wrth ffrwyth y groth,nac edrych yn drugarog ar blant.
19 A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd,a gogoniant ysblennydd y Caldeaid,fel Sodom a Gomorrawedi i Dduw eu dinistrio.
20 Ni chyfanheddir hi o gwbl,na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau;ni phabella'r Arab o'i mewn,ac ni chorlanna'r bugail ynddi.