18 Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc;ni thosturiant wrth ffrwyth y groth,nac edrych yn drugarog ar blant.
19 A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd,a gogoniant ysblennydd y Caldeaid,fel Sodom a Gomorrawedi i Dduw eu dinistrio.
20 Ni chyfanheddir hi o gwbl,na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau;ni phabella'r Arab o'i mewn,ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
21 Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno;llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd;bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
22 bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau,a'r hiena yn ei phlastai hyfryd.Y mae ei hamser wrth law,ac nid estynnir ei dyddiau.