4 Clywch, sŵn tyrfa ar y mynyddoedd,fel pobloedd heb rifedi!Clywch, dwndwr teyrnasoedd,fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnully llu ar gyfer brwydr.
5 Dônt o wlad bell,o eithaf y nefoedd—offer llid yr ARGLWYDD—i ddifa'r holl dir.
6 Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
7 Am hynny fe laesa'r holl ddwylo,a bydd pob calon yn toddi gan fraw.
8 Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt;byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor.Edrychant yn syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.
9 Wele, daw dydd yr ARGLWYDD,yn greulon gan ddigofaint a llid,i wneud y ddaear yn ddiffaitha dileu ei phechaduriaid ohoni.
10 Bydd sêr y nefoedd a'u planedauyn atal eu goleuni;tywylla'r haul ar ei godiad,ac ni oleua'r lloer â'i llewyrch.