9 Wele, daw dydd yr ARGLWYDD,yn greulon gan ddigofaint a llid,i wneud y ddaear yn ddiffaitha dileu ei phechaduriaid ohoni.
10 Bydd sêr y nefoedd a'u planedauyn atal eu goleuni;tywylla'r haul ar ei godiad,ac ni oleua'r lloer â'i llewyrch.
11 Cosbaf y byd am ei bechod,a'r drygionus am eu camwedd;gwnaf i falchder y beiddgar beidio,gostyngaf ymffrost y trahaus.
12 Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth,a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13 Am hynny fe gryna'r nefoeddac ysgydwir y ddaear o'i lle,oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoeddyn nydd angerdd ei lid.
14 Fel ewig wedi ei tharfu,fel praidd heb neb i'w corlannu,bydd pawb yn troi at ei dylwyth,a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15 Trywenir pob un a geir,a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.