1 Yr oracl am Moab:Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab;y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.
2 Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo;dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab.Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;
3 gwisgir sachliain yn yr heolydd;ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.
4 Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,a chlywir eu cri hyd Jahas;am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,ac yntau yn ysgwyd drwyddo.