6 Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.
7 Am hynny cludant dros nant Arabimyr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.
8 Aeth y gri o amgylch terfynau Moab,nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.
9 Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed,ond dygaf waeth eto ar Dimon—llew ar warthaf ffoaduriaid Moab,ac ar warthaf y gweddill yn y tir.