5 Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd,ac yn medi'r tywysennau â'i fraich,bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
6 Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
7 Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.
8 Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.
9 Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.
10 Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd;ni chofiaist graig dy gadernid;am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryda gosod impyn estron,
11 a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwyac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofida gwendid nychlyd.