1 Gwae wlad yr adenydd chwim,sydd tu draw i afonydd Ethiopia,
2 ac yn anfon cenhadau dros y môrmewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd.Ewch, chwi negeswyr cyflym,at genedl sy'n dal ac yn llyfn,at bobl a ofnir ymhell ac agos,cenedl gref sy'n mathru eraill,a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
3 Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear,edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd,gwrandewch pan gân yr utgorn.
4 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:“Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan,yr un fath â thes yr haula chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5 Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau,a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed,torrir ymaith y brigau â chyllell finiog,a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.