1 O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti;mawrygaf di a chlodforaf dy enwam iti gyflawni bwriad rhyfeddol,sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
2 Gwnaethost ddinas yn bentwr,a thref gaerog yn garnedd;ysgubwyd ymaith y plasty o'r ddinas,ac nis adeiledir byth eto.
3 Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu,a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.
4 Canys buost yn noddfa i'r tlawd,yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder,yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres.Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
5 neu fel gwres ar dir sych.Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid;fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl,felly y bydd cân y trahaus yn distewi.