3 Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu,a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.
4 Canys buost yn noddfa i'r tlawd,yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder,yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres.Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
5 neu fel gwres ar dir sych.Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid;fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl,felly y bydd cân y trahaus yn distewi.
6 Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd,gwledd o win wedi aeddfedu,o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.
7 Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudda daenwyd dros yr holl bobloedd,llen galar sy'n cuddio pob cenedl;
8 llyncir angau am byth,a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear.Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
9 Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,“Wele, dyma ein Duw ni.Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu;dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”