6 Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd,gwledd o win wedi aeddfedu,o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.
7 Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudda daenwyd dros yr holl bobloedd,llen galar sy'n cuddio pob cenedl;
8 llyncir angau am byth,a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear.Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
9 Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,“Wele, dyma ein Duw ni.Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu;dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”
10 Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn,ond fe sethrir Moab dan ei draedfel sathru gwellt mewn tomen;
11 bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol,fel nofiwr yn eu hestyn i nofio,ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr,ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad â'r pridd,a'u taflu i lawr i'r llwch.