1 Gwae goronau balch meddwon Effraim,blodau gwyw eu haddurn gogoneddusar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win.
2 Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf;fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol,fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw,fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear.
3 Bydd coronau balch meddwon Effraimwedi eu mathru dan draed;
4 a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddusar ben y beilchion brasfel ffigysen gynnar cyn yr haf;pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law.