14 Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus,penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.
15 Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angaua chynghrair â Sheol:pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni,am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.”
16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw:“Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion,maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy;ni frysia'r sawl sy'n credu.
17 Gwnaf farn yn llinyn mesur,a chyfiawnder yn blymen;bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd,a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
18 diddymir eich cyfamod ag angau,ac ni saif eich cynghrair â Sheol.Pan â'r ffrewyll lethol heibiocewch eich mathru dani.
19 Bob tro y daw heibio, fe'ch tery;y naill fore ar ôl y llall fe ddaw,liw dydd a liw nos.”Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.
20 Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo,a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.